Footsteps on sand on the beach, with gentle waves and a sunny, clear blue sky.

Galwad am artistiaid!

Artist call-out!

Cliciwch yma ar gyfer dogfen Word o’r alwad.
Cliciwch yma am recordiad sain o’r alwad.
Os oes angen yr wybodaeth yma mewn unrhyw ffurf arall neu  plis cysylltwch â cwmnitebot@gmail.com.

Click here for this call-out as a Word document.
Click here for an audio recording of this call-out.
If you require this information in another format please contact cwmnitebot@gmail.com.

Beth ydi’r prosiect?


Mae PERERINDOD yn brosiect newydd gan Invertigo a Chwmni Tebot sydd am gefnogi artistiaid i greu gwaith newydd, beiddgar, a ffurfio cysylltiadau gydag artistiaid drwy Gymru a Gwlad y Basg.

 

Rydym yn chwilio am bump artist o unrhyw ddisgyblaeth celfyddydol i archwilio’r thema ‘Pererindod’.

 

Byddwn yn cynnig comisiwn o £800 i bob artist greu eu gwaith dros yr Haf. Mae’r comisiwn hon yn gynwysedig o bob agwedd o’r gwaith, gan gynnwys ffî yr artist, unrhyw ddeunyddiau, offer neu weithwyr llawrydd ychwanegol fydd yn ymuno ȃ’r prosiect.

 

Uchafbwynt y prosiect fydd Gŵyl Rithiol Pererindod lle byddwn yn arddangos a dathlu’r gwaith newydd dros wythnos ym mis Medi. Gobeithiwn hefyd y bydd modd arddangos peth o’r gwaith yn y cnawd yn ddibynnol ar sefyllfa COVID-19.

 

Cefnogwyd y prosiect gan ein partneriaid Cyfoeth Naturiol Cymru, Eisteddfod Genedlaethol, Llenyddiaeth Ar Draws Ffiniau, a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Byddwn hefyd yn gweithio gydag artistiaid o Wlad y Basg a mi fyddent hwythau yn ymateb i’r syniad o ‘Bererindod’. Mae’r prosiect yma wedi derbyn grant Cysylltu a Ffynnu gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Llywodraeth Cymru, a’r Loteri Genedlaethol.

What’s the project?


PERERINDOD/PILGRIMAGE is a new project by Invertigo and Cwmni Tebot to support artists to create bold, new work, while forging links with other artists throughout Wales and the Basque country.

 

We’re looking for five artists of any art disciplines to explore the theme of ‘Pererindod/Pilgrimage’.

 

We are offering £800 commissions to each artist to create the work over Summer. This commission covers all aspects of the work, including the artist fee, any additional materials, equipment or freelancers who will be joining the project.

 

The highlight of the project will be Virtual Pilgrimage Festival where we will showcase and celebrate the new work over a week in September. We also hope that we’ll be able to exhibit some of the work in the real world depending on the Covid-19 situation.

 

The project is supported by our partners Natural Resources Wales, Eisteddfod Genedlaethol, Literature Across Frontiers and The National Trust. The project will also work with Basque artists who will also respond to the idea of a ‘Pilgrimage’. The project is made possible by a Connect and Flourish Grant by Arts Council Wales, Welsh Government, and the National Lottery.

Am beth rydym yn chwilio?


Mae’n gwbl agored o ran ffurf – cerddoriaeth, dawns, drama, barddoniaeth, rhyddiaith, celf weledol, crochenwaith, tecstilau gwaith metel, ayyb – anfonwch eich syniadau draw! Gofynnwn i chi gynnwys sut y byddwch chi’n rhannu’r gwaith yn rhithiol (darlleniad, fideo, darlun ayyb) fel rhan o’r cais.

 

Er ein bod ni’n croesawu unrhyw waith gwreiddiol ar y pwnc ‘Pererindod’, dyma rai themȃu a godwyd wrth drafod gyda’r gymuned leol yn Llŷn y gallech eu defnyddio fel ysbrydoliaeth:

  • Cymuned dan fygythiad.
  • Iaith.
  • Crefydd.
  • Y syniad o berthyn.
  • Tirwedd, dŵr a môr (Llwybr Arfordir Cymru)
  • Amaethyddiaeth.
  • Straeon a phobl.
  • Cysylltiadau gyda lle penodol.
  • Y teimlad o fod yn ynysig.
  • Taith lythrennol neu drosiadol.
  • Symudiad.
  • Lleoliad arbennig.
  • Cyswllt rhwng lle a phobl.
  • Ynys Enlli.

What are we looking for?


It’s completely open in terms of form – music, dance, drama, poetry, prose, visual art, pottery, metalwork textiles, etc. – send us your ideas! Please include how you will share the work in a virtual way (reading, video, illustration, photograph etc.) as part of the application.

 

Although we welcome any original work on the topic of ‘Pilgrimage’ here are some themes that came up in discussion with the local community in Llŷn that you could use as inspiration:

 

  • Community at risk or under threat.
  • Language
  • Religion
  • The idea of belonging
  • Water, sea and landscape (Wales Coastal Path)
  • Agriculture 
  • Stories and people
  • Connection to a specific place 
  • A feeling of isolation
  • A literal or metaphorical journey
  • Movement 
  • A special place
  • Connection between people and place/s.
  • Ynys Enlli / Bardsey

Pwy all wneud cais?


Rydan ni’n croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir a hunaniaeth, ac yn awyddus i glywed gan y rheini sy’n bobl o liw a phobl o hunaniaethau Du, Asiaidd neu o gefndiroedd ethnig arall, unigolion LHDT+ a/neu cwîar, byddar a/neu anabl, pobl sydd yn byw gyda salwch hir-dymor, neu bobl o gefndir incwm isel.

Rydym yn gwahodd ceisiadau gan artistiaid ledled Cymru a rheiny sydd yn lleol i Lŷn. Bydd yn rhaid i’r artistiaid fod wedi ei g/eni neu ei l/lleoli yng Nghymru. Bydd o leiaf 2 gomisiwn yn mynd i artistiaid sydd wedi ei l/lleoli yn Llŷn.

Who can apply?


Applications are welcome from artists of all backgrounds and identities, and we would especially like to hear from people of colour and people who are Black, Asian or of multiple ethnicities, LGBTQ+ and/or queer people, deaf and/or disabled people, people living with a long-term illness, or people from a low-income background.

We’re inviting applications from artists across Wales and those local to Llŷn. Artists will have to be born or based in Wales. At least two commissions will go to artists based in Llŷn.

Sut fedra’i wneud cais?


Bydd angen i chi anfon:

 

  • Cyflwyniad ohonoch chi a’ch gwaith.
    (tua 300 gair neu gyflwyniad sain/fideo tua 2 funud)

 

  • Crynodeb o beth yw eich syniad, sut mae o’n ymateb i’r themȃu.
    (tua 300 gair neu drwy gyflwyno cais ar fideo/sain tua 2 funud)

 

  • Blas o’ch gwaith blaenorol, os oes modd.
    (Gallwch yrru’r gwaith hwnnw draw gyda’r cais fel atodiad neu ddolen Google Drive, Dropbox, neu WeTransfer. Sicrhewch bod gennym ganiatad i gael mynediad at unrhyw waith sy’n cael ei yrru draw yn y dull hwnnw)

How can I apply?


To apply, please send:

 

  • An introduction of you and your work.
    (about 300 words or a 2 minute audio/video presentation)

 

  • A summary of your idea, how it responds to the themes.
    (about 300 words or a video / audio pitch of about 2 minutes)

 

  • An example of your previous work, if possible.
    (You can send that work over with the application as an attachment or a Google Drive, Dropbox, or WeTransfer link – please ensure that we’ll have the necessary permissions to view work)

Mae dyddiad cau y prosiect yma wedi bod.

Dewch yn ôl yn fuan am fwy o wybodaeth am y comisiynnau.

The application deadline for this project has now passed.

Please check back soon for more information on the commissions.

Mae croeso i chi gysylltu gyda ni os oes gennych unrhyw gwestiynau neu broblemau wrth fynd ati hefo’r cais.

Os oes angen unrhyw gefnogaeth hygyrchedd arnoch, cysylltwch ar bob cyfri.

Please contact us if you have any questions or problems with the application.

If you require any accessibility support to complete the application, please contact us.

Dyddiadau pwysig


3 Mehefin  – Dyddiad cau ymgeisio

11 Mehefin  – Byddwn yn cysylltu gyda’r artistiaid rydym am gomisiynnu

20 Awst –  Dyddiad cyflwyno’r gwaith gorffenedig

6-10 Medi – Wythnos Gwyl Pererindod

Key dates


3 June – Application deadline 

11 June – We will be contacting the commissioned artists

20 August – Submission date of  finished work

6-10 September – Wythnos Gŵyl Pererindod / Pilgrimage Festival Week

Cefnogwyd gan grant Cysylltu a Ffynnu

Supported by a Connect and Flourish grant