Y Tŵr: sgwrs gyda Steffan Donnelly

26 Ionawr 2015

Am y tro cyntaf ers 15 mlynedd mi fydd Y Tŵr , un o ddramau allweddol Gwenlyn Parry i’w gweld ar lwyfan eto- yr wythnos hon yn Chapter.

Mae cynhyrchiad cwmni theatr Invertigo, a ffurfiwyd gan bedwar o fyfyrwyr coleg Guildhall yn Llundain, yn mynd ar daith ar draws Cymru ac yn gorffen yn Llundain. Un o sefydlwyr y Cwmni, sydd hefyd yn actio yn y ddrama gyda Catherine Ayers (gweler y llun uchod) yw Steffan Donnelly a chymrodd amser prin allan o’i amserlen prysur i gael sgwrs am y ddrama gyda Pobl Caerdydd.

Mae Steffan yn  actor a cyfarwyddwr theatr, yn wreiddiol o Lanfairpwll ar Ynys Môn, ac yn byw yn Llundain  ar ôl graddio o’r Guildhall School of Music and Drama yn 2012.

“Sefydlais gwmni theatr Invertigo  gyda’n nghyd-fyfyrwyr er mwyn creu a pherfformio ein gwaith ein hunain. Ein bwriad yw cyflwyno neu ail-gyflwyno gwaith llai adnabyddus ar lwyfan. Un o’n cynhyrchiadau cyntaf oedd drama cynnar Gwenlyn Parry – Saer Doliau. Mi werthodd allan yn Llundain ag ail-uno’r tîm yno yda ni efo Y Tŵr (Catherine Ayers a finnau yn actio, Aled Pedrick yn cyfarwyddo). Buom i Gaeredin yn 2013 (gyda Outside On The Street / Draussen Vor Der Tuer), a rydym wedi ennill sawl gwobr (yn cynnwys y Deutsche Bank Award for Creative Enterprises).

PC:Sut brofiad yw i berfformio Shakespeare yn y Globe?

Anhygoel. Mae gymaint o hanes. Mae’r adeilad hefyd yn gwneud lot o’r gwaith parataol iddych chi fel actor – mae’r gynulleidfa yn edrych ymlaen a’n hollol barod i’r sioe ddechrau o achos atmosffer a hanes yr adeilad.

Y cynhyrchiad cyntaf a wnes i yno oedd Titus Andronicus, drama gwaedlyd ofnadwy – roedd y cynulleidfa yn llewygu ymhob man yn ganol golygfeydd! Mercutio yn Romeo and Juliet sydd nesaf i mi yno! Gwahanol iawn. Methu aros i gychwyn.

Roedd y dramodydd Gwenlyn Parry (1932-1991) yn un o brif leisiau Llenyddiaeth Gymraeg yr ugeinfed ganrif.

Mae ei waith teledu yn cynnwys rôl allweddol wrth sefydlu adran sgriptiau BBC Cymru a Pobol y Cwm, ac roedd ei ddramau – a ysbrydolwyd gan waith Ionesco a Brecht – yn cynrychioli dechrau cyfnod euraidd mewn ysgrifennu dramatig Cymraeg.

PC:Mae’r Tŵr yn un o ddramau mwyaf enwog Gwenlyn,   pam perfformio y ddrama nawr?

Mae’n trafod perthynas mewn ffordd andros o onest. Mae pawb yn medru cydymdeimlo gyda phroblemau a chariad y cymeriadau. Mae’n ddrama sy’n creu ymateb personol iawn wrth i chi sylweddoli tebygrwydd eich bywyd chi efo bywydau’r cymeriadau.

Dydio heb gael ei weld ar lwyfan ers dros 15 mlynedd felly mae’n hen bryd iddi ddod yn ôl ar daith i’r brifddinas!

 PC:Beth sydd gan y ddrama i’w gynnig? Ydy hi’n berthnasol heddiw?

Mae’n ddrama sy’n trafod llwybrau bywyd, yr amserau da a drwg, a sut mae bywyd yn aml yn wahanol i’r ffordd yr oeddech yn meddwl y base’n digwydd.

Mae’n gofyn cwestiynnau mawr am ddynoliaeth, mewn ffordd abstract a diddorol iawn.

Mae sgwennu Gwenlyn yn hynod farddonol a mae’r themâu anferthol yma yn cael eu trin mewn ffordd gonest. Mae’n atgoffa ni o waith Pinter neu Beckett – mi gafon nhw argraff mawr ar ei waith o.

PC:Sut brofiad yw actio mewn drama gyda mond dau berson ar y llwyfan? Ydy fe’n straen ac yn ‘’intense’’ iawn?

O iaith hunafol Shakespeare ag adeilad mawr y Globe i ddrama 2 gymeriad yn y Gymraeg. Mae’r ddau yn her hwylus!

Mae yna lot o bwysau efo Y Tŵr – Cath a finnau ar y llwyfan am 80 munud heb egwyl! Mae’r ddrama hefyd yn un ‘intense’ iawn yn dangos uchafbwyntiau ag isafbwyntiau bywyd a rydym yn heneiddio wrth iddi fynd yn ei flaen. Rydym wedi bod yn gweithio yn galed iawn ar hyn oll ers ryw fis a’n edrych ymlaen yn fawr i’w dangos o flaen cynulleidfa.

PC:Ydych chi’n edrych ymlaen i berfformio yn y brifddinas? Ac yn Chapter yn benodol?

Mae perfformio yn y brifddinas yn gyffrous iawn. Mae mynd a hi tu hwnt ffiniau Cymru a i Galeri Caernarfon (tafliad carreg o le geni Gwenlyn – Deiniolen) yn lefydd i edrych ymlaen iddyn nhw hefyd.

Mae Chapter yn ‘hub’ creadigol braf iawn a rydym yn edrych mlaen i fod yng nghanol hynny.”

Mi fydd y Tŵr ymlaen yn  Chapter o  ddydd Mawrth 27 i  Sadwrn 31 Ionawr, 8pm a 2pm (Prynhawn Gwener) . Am docynnau ffoniwch 029 2030 4400 neu ewch i’r wefan www.chapter.org